Lleoliad:
Hybrid – Ystafell Bwyllgora 3 Senedd a
fideogynadledd drwy Zoom
Dyddiad: Dydd Mercher, 24 Mai 2023
Amser:
09.30 -
12.15
Gellir gwylio’r cyfarfod ar Senedd TV yn:
http://senedd.tv/cy/13461
------
Categori |
Enwau |
Aelodau o’r Senedd: |
Heledd Fychan AS (Cadeirydd dros dro) (yn lle Llyr Gruffydd AS) Janet Finch-Saunders AS Huw Irranca-Davies AS Delyth Jewell AS Jenny Rathbone AS Joyce Watson AS |
Tystion: |
Julie James AS, Y Gweinidog Newid Hinsawdd Roger Herbert, Llywodraeth Cymru Helen Rowley, Llywodraeth Cymru Olwen Spiller, Llywodraeth Cymru |
Staff y Pwyllgor: |
Marc Wyn Jones (Clerc) Andrea Storer (Dirprwy Glerc) Francesca Howorth (Ymchwilydd) Stephen Davies (Cynghorydd Cyfreithiol) |
1 Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau.
1.1 Croesawodd y Cadeirydd yr Aelodau i’r cyfarfod.
1.2 Cafwyd ymddiheuriadau gan Llyr Gruffydd AS am weddill tymor yr haf ac roedd Heledd Fychan AS yn dirprwyo.
1.3 Yn absenoldeb y Cadeirydd, cafodd Heledd Fychan AS ei hethol yn Gadeirydd dros dro ar gyfer y cyfarfod hwn a gweddill tymor yr haf, yn unol â rheol sefydlog 17.22
1.4 Yn unol â Rheol Sefydlog 17.24A, gwnaeth Huw Irranca-Davies AS a Heledd Fychan AS ddatganiadau o fuddiannau perthnasol.
2 Bil yr Amgylchedd (Ansawdd Aer a Seinweddau) (Cymru) - tystiolaeth gan y Gweinidog Newid Hinsawdd: rhan 1
2.1 Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan y Gweinidog Newid Hinsawdd a swyddogion.
3 Bil yr Amgylchedd (Ansawdd Aer a Seinweddau) (Cymru) - tystiolaeth gan y Gweinidog Newid Hinsawdd: rhan 2
3.1 Parhaodd y Pwyllgor i gael tystiolaeth gan y Gweinidog Newid Hinsawdd a swyddogion Llywodraeth Cymru.
4 Papurau i'w nodi
4.1 Cafodd y papurau eu nodi.
4.1 Bil yr Amgylchedd (Ansawdd Aer a Seinweddau) (Cymru)
4.2 Cynllun Masnachu Allyriadau y DU
4.3 Gwefru Cerbydau Trydan
4.4 Tata Steel - Datgarboneiddio'r diwydiant dur
4.5 Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol Atodol (Memorandwm Rhif 3) ar gyfer y Bil Ffyniant Bro ac Adfywio
4.6 Fframweithiau cyffredin
5 Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42(vi) a (ix) i benderfynu gwahardd y cyhoedd o weddill y cyfarfod heddiw.
5.1 Derbyniwyd y cynnig.
6 Bil yr Amgylchedd (Ansawdd Aer a Seinweddau) (Cymru) - trafod y dystiolaeth a ddaeth i law o dan eitem 2 ac eitem 3
6.1 Trafododd y Pwyllgor y dystiolaeth a gafodd gan y Gweinidog Newid Hinsawdd a swyddogion Llywodraeth Cymru, o dan eitemau 2 a 3.
7 Trafod y Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol Atodol ar y Bil Ffyniant Bro ac Adfywio
7.1 Cafodd y Pwyllgor bapur briffio cyfreithiol ar y Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol atodol ar y Bil Ffyniant Bro ac Adfywio.
8 Trafod yr amserlen arfaethedig ar gyfer Bil Seilwaith (Cymru)
8.1 Trafododd y Pwyllgor a chytunodd ar yr amserlen arfaethedig ar gyfer y Bil Seilwaith (Cymru).